Celtic Challenge - Lead Therapist
As part of our ambition to return Welsh Rugby to the top of the international game, player welfare and clinical excellence sit at the heart of everything we do. We are committed to building a women's performance pathway that supports every athlete to develop, stay available, and perform — and that starts with outstanding medical and therapy provision at every level of the programme.
The Celtic Challenge is a critical part of our women's performance pathway, and this role is central to it. As Lead Therapist, you will deliver high-quality clinical care to a Celtic Challenge women's squad, lead screening and injury prevention programmes, and play an active role in shaping an evidence-informed, female-focused approach to player welfare across the organisation.
Closing Date: 12 June 2026
Salary: £31,000 - £37,000 per annum, depending on experience
Location: WRU National Centre of Excellence, Hensol
Status: Full time, permanent
Positions available: 2
What you'll do
Deliver therapy services to a Celtic Challenge women's squad across all training and fixtures
Lead pre-and post-campaign screening programmes, including MSK, cardiac, and cognitive baseline assessment
Design and implement female-specific injury prevention programmes and player wellbeing education
Ensure full clinical governance, including concussion protocols, medical records, and World Rugby compliance
Contribute to applied research and support the wider Women's International Pathway as required
What you'll bring
BSc in Physiotherapy, Sports Therapy, or Sports Rehabilitation, with current CSP/HCPC, BASRaT, or SST membership
Current pitch side qualifications meeting WRU Minimum Standards Criteria
Proven experience as the lead clinician for an elite sports team
Deep understanding of clinical governance, confidentiality, and GDPR within a performance sport environment
Commitment to evidence-informed practice and female athlete health
If this sounds like you, we'd love to hear from you.
WRU Requirements
The WRU require that individuals are proficient in IT skills, specifically Microsoft packages. Excellent written and verbal communications are essential, along with the ability to build strong relationships with internal and external stakeholders.
Ability to communicate through the medium of Welsh and a Valid UK Driver's License is desirable. This role is subject to a basic DBS check.
The Perks
As a permanent member of the WRU Group, you will have access to our full range of employee benefits, including:
Salary Sacrifice Pension (5% employee contribution, matched by WRU)
Life assurance scheme
WRU Group Ticket Allocation (in line with ticketing policy)
One additional paid day off (birthday leave)
Employee assistance programme
Team Tactics – hybrid working arrangements
Free stadium parking and gym
WRU Group store and tour discounts
WRU Group partnership offers
Eye Care Voucher Scheme
Cycle to Work Scheme
Our Values
The WRU Group are committed to developing a culture whereby all employees are equally valued and respected. Our aims, together with our vision and mission, are underpinned by our core values and beliefs which embrace: Integrity, Excellence, Success, Courage, Family & Humour.
Inclusion At The WRU
The WRU Group are committed to building diverse, high-performing and engaged teams across Welsh Rugby. We are ambitious about providing a people first culture where everyone can belong, be heard and respected. We are happy to talk to you about our Crys I Bawb EDI Strategy (2024-2029) and you can also read more about our commitment in our Equality, Diversity and Inclusion Policy.
Diversity monitoring
We know that we deliver better services when our workforce reflects the full range of backgrounds and experiences in the society we serve.
To continue to do this we need your help in filling out a short monitoring form.
None of the information you provide will be visible as part of your application. It will only be used anonymously to monitor the inclusivity of our selection processes.
You can select 'prefer not to say’ if you would rather not answer any question.
Fel rhan o'n huchelgais i fynd â Rygbi Cymru yn ôl i frig y gêm ryngwladol, mae lles chwaraewyr a rhagoriaeth glinigol wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu llwybr perfformiad menywod sy'n cefnogi pob athletwr i ddatblygu, i aros ar gael, ac i berfformio — ac mae hynny'n dechrau gyda darpariaeth feddygol a therapi ragorol ar bob lefel o'r rhaglen.
Mae'r Her Geltaidd yn rhan hanfodol o'n llwybr perfformiad menywod, ac mae'r rôl hon yn ganolog iddi. Fel Therapydd Arweiniol, byddwch yn darparu gofal clinigol o ansawdd uchel i garfan menywod yr Her Geltaidd, gan arwain rhaglenni sgrinio ac atal anafiadau, ac yn chwarae rôl weithredol mewn llunio ymagwedd wedi'i llywio gan dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar fenywod tuag at les chwaraewyr ar draws y sefydliad.
Dyddiad Cau: 12 Mehefin 2026
Cyflog: £31,000 - £37,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad: Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol URC, Henso
Statws: Llawn amser, parhaol
Swyddi ar gael: 2
Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud
· Cyflwyno gwasanaethau therapi i garfan menywod yr Her Geltaidd ar draws yr holl hyfforddiant a gemau
· Arwain rhaglenni sgrinio cyn ac ar ôl yr ymgyrch, gan gynnwys asesiadau gwaelodlin MSK, cardiaidd a gwybyddol
· Dylunio a gweithredu rhaglenni atal anafiadau ac addysg lles chwaraewyr sy'n benodol i fenywod
· Sicrhau llywodraethu clinigol llawn, gan gynnwys protocolau cyfergyd, cofnodion meddygol, a chydymffurfiaeth â gofynion Rygbi'r Byd.
· Cyfrannu at ymchwil gymhwysol a chefnogi Llwybr Rhyngwladol ehangach y Menywod yn ôl yr angen
Yr hyn fydd gennych chi
· BSc mewn Ffisiotherapi, Therapi Chwaraeon, neu Adsefydlu Chwaraeon, gydag aelodaeth CSP/HCPC, BASRaT, neu SST gyfredol
· Cymwysterau ochr y cae cyfredol sy'n bodloni Meini Prawf Safonau Gofynnol URC
· Profiad profedig fel clinigwr arweiniol tîm chwaraeon elît
· Dealltwriaeth ddofn o lywodraethu clinigol, cyfrinachedd, a GDPR o fewn amgylchedd chwaraeon perfformiad
· Ymrwymiad i arfer wedi'i lywio gan dystiolaeth ac iechyd athletwyr benywaidd
Os yw hyn yn swnio fel chi, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi.
GOFYNION URC
Mae URC yn mynnu bod gan unigolion sgiliau TG, yn benodol pecynnau Microsoft. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i feithrin perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a Thrwydded Yrru Ddilys y DU yn ddymunol. Mae'r rôl hon yn amodol ar wiriad DBS sylfaenol.
Y MANTEISION
Fel aelod parhaol o Grŵp URC, bydd gennych fynediad at ein hystod lawn o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:
Pensiwn Aberth Cyflog (cyfraniad cyflogai o 5%,cyfraniad cyfatebol gan URC)
Cynllun yswiriant bywyd
Dyraniad Tocyn Grŵp URC (yn unol â Pholisi Tocynnau)
Un diwrnod ychwanegol o wyliau tâl (gwyliau pen-blwydd)
Rhaglen cymorth i weithwyr
Tactegau Tîm – trefniadau gweithio hybrid
Parcio stadiwm a champfa am
Gostyngiadau siop a theithiau Grŵp URC
Cynigion partneriaeth Grŵp URC
Cynllun Talebau Gofal Llygaid
Cynllun Beicio i'r Gwaith
Gostyngiadau Gwestai'r Celtic Collection
Ein Gwerthoedd
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant lle mae pob gweithiwr yn cael ei werthfawrogi a'i barchu'n gyfartal. Mae ein nodau, ynghyd â’n gweledigaeth a’n cenhadaeth, wedi’u tanategu gan ein gwerthoedd a’n credoau craidd sy’n croesawu: Uniondeb, Rhagoriaeth, Llwyddiant, Dewrder, Teulu a Hiwmor.
Cynhwysiant yn URC
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddarparu Jyrsi i Bawb. Mae hyn yn cynnwys y bobl sy'n gweithio i ni a gyda ni. Rydym yn uchelgeisiol ynglŷn â darparu diwylliant sy'n rhoi pobl yn gyntaf, lle gall pawb fod yn perthyn a chael eu clywed a’u parchu. Rydym yn hapus i siarad â chi am ein Cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2023-2028) a gallwch hefyd ddarllen rhagor am ein hymrwymiad yn ein Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Monitro amrywiaeth
Gwyddom ein bod yn darparu gwasanaethau gwell pan fo ein gweithlu’n adlewyrchu’r ystod lawn o gefndiroedd a phrofiadau yn y gymdeithas a wasanaethwn. Er mwyn parhau i wneud hyn mae angen eich help arnom i lenwi ffurflen fonitro fer. Ni fydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu yn weladwy fel rhan o'ch cais. Dim ond i fonitro cynwysoldeb ein prosesau dethol yn ddienw y caiff ei defnyddio. Gallwch ddewis ‘gwell gennyf beidio â dweud’ os byddai’n well gennych beidio ag ateb unrhyw gwestiwn.
- Department
- Performance
- Locations
- National Centre of Excellence
- Remote status
- Hybrid
- Yearly salary
- £31,000 - £37,000
- Employment type
- Full-time
- Contract
- Permanent
About The Welsh Rugby Union
Governing body for the national sport of Wales.
Leading Welsh rugby to the forefront of the global game in performance and reputation. Developing grass-roots rugby, increasing participation, supporting clubs and bringing communities together. Promoting the Principality Stadium as a unique, must play, must visit venue.