Maintenance Operative
Provide support in the planned and preventative maintenance at Principality Stadium/WRU Centre of Excellence as required. Ensuring adherence to legislative and event requirements.
Salary: £30,000 per annum.
Location: Principality Stadium, Cardiff
Hours of Work: 40 per week. Monday to Friday 9am – 5pm, with a requirement to work flexibly, evenings and weekends as necessary and working events.
Contractual Status: Permanent, full time
Subject to 6-month probationary period
Closing Date: 28th August 2025
The Person
The successful candidate will be self-motivated and able to work as a part of a busy and well-established team. You will have a good knowledge, understanding and experience of general maintenance areas including painting, plumbing, carpentry and other general repairs and maintenance.
You will need to be confident and able to work at heights including the ability to climb ladders. Lifting will be a part of the role, so being physically fit will be a necessity.
You will need to be prepared to work some unsociable hours.
- Strong interpersonal and relationship management
- Willingness to learn from others and adapt to the needs of the business
- Trade qualification to a minimum of NVQ Level 2 (carpentry/plumbing)
- IT skills, specifically Microsoft package
- Strong interpersonal skills
- Have or working towards IOSH qualification
- Ability to work at heights
- Excellent written and verbal communication skills are essential
- Ability to communicate and work through the medium of Welsh is desirable
The Role
- To carry out maintenance duties as and when required
- To ensure work and storage spaces are kept clean, clear and free of obstruction
- To provide maintenance support where tasks include painting, plumbing, seat repairs, barriers, carpentry, doors and concrete repairs within the stadium
- Understand personal responsibilities in relation to the Health & Safety at Work legislation and demonstrates a working knowledge of COSHH assessment applicable in own work area
- Take reasonable care of items of equipment used to carry out tasks, including general cleanliness and advising on faults and need for maintenance or replacement goods
- Ensure best practice at all times
- Reporting to supervisor or manager incident or accident
- To carry out inspection and checks as appropriate in advance of events including checks of toilets, surface finishes, seating, building fabric, etc
- To provide reactive and proactive support to specific event day issues and ensure communication with maintenance supervisor and stadium control room to ensure an efficient resolution
- Ensure wherever possible, that staff relationships remain courteous, professional and appropriate and identify areas of concern to the management team as they arise.
- Demonstrate strong carpentry, building and decorating related skills
- Carry out duties in support of the WRU Group Strategic Mission, Purpose and Values
WRU Requirements
The WRU require that individuals are proficient in IT skills, specifically Microsoft packages. Excellent written and verbal communications are essential, along with the ability to build strong relationships with internal and external stakeholders.
Ability to communicate through the medium of Welsh and a Valid UK Driver's License is desirable. This role is subject to a basic/enhanced DBS check.
The Perks
As a permanent member of the WRU Group, you will have access to our full range of employee benefits, including:
- Salary Sacrifice Pension (5% employee contribution, matched by WRU)
- Life assurance scheme
- WRU Group Ticket Allocation
- Employee assistance programme
- Team Tactics – hybrid working arrangements
- Free stadium parking and gym
- WRU Group store and tour discounts
- WRU Group partnership offers
- Eye Care Voucher Scheme
- Cycle to Work Scheme
Our Values
The WRU Group are committed to developing a culture whereby all employees are equally valued and respected. Our aims, together with our vision and mission, are underpinned by our core values and beliefs which embrace: Integrity, Excellence, Success, Courage, Family & Humour.
Inclusion At The WRU
The WRU Group are committed to building diverse, high-performing and engaged teams across Welsh Rugby. We are ambitious about providing a people first culture where everyone can belong, be heard and respected. We are happy to talk to you about our Crys I Bawb EDI Strategy (2024-2029) and you can also read more about our commitment in our Equality, Diversity and Inclusion Policy.
Diversity monitoring
We know that we deliver better services when our workforce reflects the full range of backgrounds and experiences in the society we serve.
To continue to do this we need your help in filling out a short monitoring form.
None of the information you provide will be visible as part of your application. It will only be used anonymously to monitor the inclusivity of our selection processes.
You can select 'prefer not to say’ if you would rather not answer any question.
Gweithiwr Cynnal a Chadw
Darparu cefnogaeth yn y gwaith cynnal a chadw cynlluniedig ac ataliol yn Stadiwm Principality/Canolfan Ragoriaeth URC yn ôl yr angen. Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol a digwyddiadau.
Cyflog: £30,000.00 y flwyddyn
Lleoliad: Stadiwm Principality. Caerdydd
Oriau gwaith: 40 awr yr wythnos. Dydd Llun i ddydd Gwener 8am – 5pm, gyda gofyniad i weithio’n hyblyg, gyda’r nos ac ar benwythnosau yn ôl yr angen.
Statws cytundebol: Parhaol, llawn amser
Yn amodol ar gyfnod prawf o 6 mis
Dyddiad Cau: 28 Awst 2025
Y PERSON
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hunan-gymhellol ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm prysur a sefydledig. Bydd gennych wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad da o feysydd cynnal a chadw cyffredinol gan gynnwys paentio, plymio, gwaith coed ac atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw cyffredinol arall.
Bydd rhaid i chi fod yn hyderus wrth weithio ar uchder, gan gynnwys y gallu i ddringo ysgolion. Bydd codi yn rhan o'r rôl, felly bydd bod yn gorfforol heini yn hanfodol.
Bydd angen i chi fod yn barod i weithio oriau anghymdeithasol.
- Rheolaeth ryngbersonol a pherthnasau cadarn
- Parodrwydd i ddysgu gan eraill ac addasu i anghenion y busnes
- Cymhwyster crefft hyd at o leiaf NVQ Lefel 2 (saernïaeth/plymio)
- Sgiliau TG, yn benodol pecyn Microsoft
- Sgiliau rhyngbersonol cadarn
- Wedi cyflawni cymhwyster IOSH neu weithio tuag ato
- Y gallu i weithio ar uchder
- Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol
- Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio yn y Gymraeg yn fanteisiol
Y RÔL
- Cyflawni dyletswyddau cynnal a chadw yn ôl yr angen
- Sicrhau bod mannau gwaith a storio yn cael eu cadw'n lân, yn glir ac yn rhydd o unrhyw rwystrau
- Darparu cymorth cynnal a chadw lle mae tasgau’n cynnwys peintio, plymio, atgyweirio seddi, rhwystrau, gwaith coed, atgyweirio drysau a choncrit o fewn y stadiwm
- Deall cyfrifoldebau personol mewn perthynas â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a dangos gwybodaeth ymarferol o asesiad COSHH sy'n berthnasol yn ei faes gwaith ei hun
- Cymryd gofal rhesymol o eitemau offer a ddefnyddir i gyflawni tasgau, gan gynnwys glendid cyffredinol a chynghori ar ddiffygion, yr angen am waith cynnal a chadw neu amnewid nwyddau
- Sicrhau arfer gorau ar bob adeg
- Adrodd am ddigwyddiadau neu ddamweiniau i oruchwyliwr neu reolwr
- Cynnal archwiliadau a gwiriadau fel y bo'n briodol cyn digwyddiadau gan gynnwys gwirio toiledau, gorffeniadau arwynebau, seddi, ffabrig yr adeilad, ac ati
- Darparu cefnogaeth adweithiol a rhagweithiol i faterion diwrnod digwyddiad penodol a sicrhau cyfathrebu gyda'r goruchwyliwr cynnal a chadw ac ystafell reoli'r stadiwm i sicrhau datrysiad effeithlon
- Sicrhau lle bynnag y bo modd, bod perthnasoedd staff yn parhau i fod yn gwrtais, proffesiynol a phriodol a nodi meysydd sy’n peri pryder i’r tîm rheoli wrth iddynt godi.
- Arddangos sgiliau gwaith saer, adeiladu ac addurno cryf
- Cyflawni dyletswyddau i gefnogi Cenhadaeth, Diben a Gwerthoedd Strategol Grŵp URC
GOFYNION URC
Mae URC yn mynnu bod gan unigolion sgiliau TG, yn benodol pecynnau Microsoft. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i feithrin perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a Thrwydded Yrru Ddilys y DU yn ddymunol. Mae'r rôl hon yn amodol ar wiriad DBS sylfaenol/manwl.
Y MANTEISION
Fel aelod parhaol o Grŵp URC, bydd gennych fynediad at ein hystod lawn o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:
- Pensiwn Aberth Cyflog (cyfraniad cyflogai o 5%,cyfraniad cyfatebol gan URC)
- Cynllun yswiriant bywyd
- Dyraniad Tocyn Grŵp URC
- Rhaglen cymorth i weithwyr
- Tactegau Tîm – trefniadau gweithio hybrid
- Parcio stadiwm a champfa am
- Gostyngiadau siop a theithiau Grŵp URC
- Cynigion partneriaeth Grŵp URC
- Cynllun Talebau Gofal Llygaid
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Gostyngiadau Gwestai'r Celtic Collection
Ein Gwerthoedd
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant lle mae pob gweithiwr yn cael ei werthfawrogi a'i barchu'n gyfartal. Mae ein nodau, ynghyd â’n gweledigaeth a’n cenhadaeth, wedi’u tanategu gan ein gwerthoedd a’n credoau craidd sy’n croesawu: Uniondeb, Rhagoriaeth, Llwyddiant, Dewrder, Teulu a Hiwmor.
Cynhwysiant yn URC
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i adeiladu timau amrywiol, uchel eu perfformiad ac ymgysylltiedig ar draws Rygbi Cymru. Rydym yn uchelgeisiol ynglŷn â darparu diwylliant sy'n rhoi pobl yn gyntaf, lle gall pawb fod yn perthyn a chael eu clywed a’u parchu. Rydym yn hapus i siarad â chi am ein Strategaeth EDI Crys i Bawb (2024-2029) a gallwch hefyd ddarllen rhagor am ein hymrwymiad yn ein Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Monitro amrywiaeth
Gwyddom ein bod yn darparu gwasanaethau gwell pan fo ein gweithlu’n adlewyrchu’r ystod lawn o gefndiroedd a phrofiadau yn y gymdeithas a wasanaethwn. Er mwyn parhau i wneud hyn mae angen eich help arnom i lenwi ffurflen fonitro fer. Ni fydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu yn weladwy fel rhan o'ch cais. Dim ond i fonitro cynwysoldeb ein prosesau dethol yn ddienw y caiff ei defnyddio. Gallwch ddewis ‘gwell gennyf beidio â dweud’ os byddai’n well gennych beidio ag ateb unrhyw gwestiwn.
- Department
- Stadium Operations
- Locations
- Principality Stadium
- Yearly salary
- £30,000
- Employment type
- Full-time
- Contract
- Permanent
About The Welsh Rugby Union
Governing body for the national sport of Wales.
Leading Welsh rugby to the forefront of the global game in performance and reputation. Developing grass-roots rugby, increasing participation, supporting clubs and bringing communities together. Promoting the Principality Stadium as a unique, must play, must visit venue.
Already working at The Welsh Rugby Union?
Let’s recruit together and find your next colleague.